Dyma be mae ein cleientiaid yn dweud amdanom ni ...
Trawsnewid Atigau - parhad...
Roedd ychwanegu mwy o le yn golygu, efallai, y byddem yn gallu gwasgu tŷ bach a basn ymolchi i mewn. Ddylwn i ddim fod wedi poeni, unwaith eto, daeth Andy i fyny gyda chynllun a fyddai’n ein siwtio i’r dim, ac yn union yr hyn roeddem eisiau. Cwblhawyd y gwaith gan Andy a’i dîm ffantastig, y trawsnewid rhyfeddol yma mewn dim o beth.
Cafwyd safon eithriadol o grefftus drwy
gydol y prosiect hwn. Yn ogystal â hyn,
yn ddyddiol, wrth weithio ar y safle,
cliriwyd y llanast adeiladu yn llwyr,
roedd hyn yn fonws ychwanegol.
Roeddem wrth ein bodd gyda
thrawsnewid ein hatig, a hoffem
ddiolch o galon i Andy a’i dîm gwych
am wneud hyn yn bosibl.
David a Carol Ellis.
Estyniadau
Cawsom estyniad yng nghefn y tŷ, a hefyd trawsnewidiwyd ein croglofft. Fe wnaethpwyd y gwaith yn broffesiynol, ac i safon uchel. Yn gyffredinol, roeddem yn fodlon iawn gyda’r cynnyrch terfynol. Byddwn yn fwy na hapus i gynnig i unrhyw un ddod i weld y gwaith gorffenedig pe bai rhywun â diddordeb. Mae modd i chi drefnu hyn drwy A.W. Owen Joinery & Building Contractors.
Derek Owen
mwy o dystebau
ar y dudalen nesaf
A. W. Owen, Joinery & Building Contractors, Uned 3, Stâd Ddiwydiannol Four Crosses , Porthaethwy, Ynys Môn, Gogledd Cymru LL59 5RW
gwe: www.awowen.co.uk