Dylunio Gwe:  Pobol y We





Sefydlwyd 1983
Trawsnewid Atig
A ddylem ni drawsnewid croglofft arall yn ystafell fyw  - dyna oedd ein cyfyng gyngor. Rydym yn byw mewn hen fwthyn Cymreig, sy’n eithaf hir o ran fframwaith, gyda dwy set o risiau yn mynd i fyny i’r croglofftydd yn barod, felly roedd meddwl am set arall eto o risiau yn ystyriaeth fawr i ni ar y pryd. Fel y digwyddodd hi, doedd dim achos poeni, gan i Andy Owen awgrymu y byddai cael grisiau y tu allan nid yn unig yn nodwedd ynddi ei hun, ond hefyd yn rhoi mwy o le i ni yn y groglofft.   David a Carol Ellis.
Dyma be mae ein cleientiaid yn dweud amdanom ni ...
Ystafelloedd Ymolchi
Diolch o galon i chi am droi fy ystafell sbâr yn ystafell ymolchi hardd.  Dwi’n hynod fodlon â’r gwaith rhagorol, a gafodd ei gyflawni yn gyflym ac yn effeithlon.  Mae fy ffrindiau’n dweud ei fod  “fel rhywbeth allan o gylchgrawn”.
Mandy Webb
mwy
Adnewyddu Llawn
Wnes i ddim petruso o gwbl rhag rhoi tysteb i’r cwmni uchod. R’wy wedi cael gwaith adnewyddu llawn wedi ei wneud yn ddiweddar gan y cwmni yma.   Mae eu crefftwriaeth yn ddi-fai. Maent yn weithwyr caled ac onest, ac yn cadw at amser hefyd.  Mae Mr Owen a’i weithwyr yn ddymunol a boneddigaidd bob amser. Byddem yn sicr yn eu cyflogi eto.
J. Booth a J.H. Baguley

mwy o dystebau ar y dudalen nesaf
ENGLISH
A. W. Owen, Joinery & Building Contractors, Uned 3, Stâd Ddiwydiannol Four Crosses , Porthaethwy, Ynys Môn, Gogledd Cymru  LL59 5RW
gwe:  www.awowen.co.uk
 
Dylunio Gwe:  Pobol y We