Dechreuais y cwmni A.W.Owen Joinery & Building Contractors yn 1983 gan weithio fel saer ar fy mhen fy hun. Byddwn yn cael fy is-gontractio gan gwmnïau adeiladu mawr gan weithio yn Peboc Chemicals yn Llangefni, RAF y Fali ar Ynys Môn yn cynnal a chadw adeiladau’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac ym mhorthladd Caergybi, Ynys Môn yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar adeiladau’r porthladd ac atgyweirio docfeydd.
Mae ein gwaith yn amrywio o osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi, adeiladu estyniadau, trawsnewid atigau, gweithio ar dai newydd, gwneud gwaith saer coed, ailosod ac atgyweirio ffenestri a drysau Upvc.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Cynllunio ac Adeiladu, gan ddelio gyda chaniatâd Cynllunio a rheolau Adeiladu ar eich rhan. (e-bostiwch i drefnu ymgynghoriad]
Ers hynny, mae’r cwmni wedi tyfu, ac rydym wedi cyflawni nifer o gytundebau ar gyfer Cymdeithas Dai Gogledd Cymru, dros gyfnod o un mlynedd ar ddeg, yn ogystal â Chyngor Sir Ynys Môn, yn gwneud gwaith atgyweirio ar eu rhan.
Rydym hefyd wedi gweithio ar adeiladu estyniadau newydd, trawsnewid atigau, ac adeiladu
tai newydd ar gyfer y sector breifat.
Rydym wedi sefydlu tîm ardderchog sy’n cynnwys gweithwyr ac
is-gontractwyr sydd wedi gweithio
i ni dros gyfnod o flynyddoedd.
Uned 3, Stâd Ddiwydiannol Four Crosses, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5RW